Cyflwyniad
1. Pwrpas y papur hwn yw rhoi tystiolaeth ysgrifenedig ar Ardrethi Busnes i’r Pwyllgor Menter a Busnes.
2. Sefydlwyd Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Ardrethi Busnes, o dan gadeiryddiaeth yr Athro Brian Morgan, yn yr hydref 2011 i asesu sut y gallai’r gyfundrefn ardrethi busnes yng Nghymru gael ei defnyddio i dargedu ymyrraeth mewn i hybu datblygiad a thwf economaidd..
Cyfathrebu
3. Cyfarfu’r Grŵp yn rheolaidd rhwng mis Tachwedd 2011 a mis Ebrill 2012. Bu’r Grŵp yn cyfathrebu ag ystod eang o randdeiliaid gan gofnodi tystiolaeth ledled Cymru.
4. Yn sgil cyhoeddi Adroddiad Adolygu Ardrethi Busnes ym mis Mehefin 2012, cynhaliodd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen nifer o gyfarfodydd â rhanddeiliaid trwy’r haf i esbonio’u canfyddiadau. Roedd hyn yn cynnwys cyfarfod gyda Chadeiryddion Ardaloedd Menter; Panelau Sector; Cyngor Adnewyddu’r Economi; Cymdeithas Manwerthu Elusennol ac eraill. Hefyd cofnodwyd nifer o ymatebion ysgrifenedig ar yr adroddiad terfynol. Bûm hefyd yn ymgynghori gyda chyd-aelodau yn y Cabinet am yr argymhellion.
Ymateb i’r Adroddiad a’r argymhellion
5. Roedd 19 argymhelliad yn yr adroddiad. Cyhoeddais ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 23 Hydref gan roi datganiad llafar mewn cyfarfod llawn. Mae’r datganiad yn nodi’n bod am gymryd camau i ymateb yn gadarnhaol yn awr a thros y flwyddyn nesaf.
6. O gofio nad yw ardrethi busnes yn bwnc datganoledig, byddwn yn pwyso ar Lywodraeth y DU i gymryd camau ar rai o’r argymhellion. Mae’n cynnwys cadw’r Rhyddhad o Ardrethi Busnes i Fusnesau Bach, a gwella’r gyfundrefn Ardrethi Eiddo Gwag a’r rhyddhad a gynigir am fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy.
7. Ar y naill law, rydym yn gefnogol i’r egwyddor o ddatganoli ardrethi busnes i Gymru ond ni ddylid gwneud hyn mewn ffordd bytiog. Rydym yn anelu at sicrhau system ariannol gynhwysfawr a diwygiedig i Gymru a fyddai’n cynnwys dull ariannu tecach a threfniadau benthyg effeithiol.
8. Mewn ymateb i’r adroddiad cyhoeddais gynllun ardrethi busnes o £20 miliwn yn y saith Ardal Fenter, gan dargedu busnesau newydd a BBaChau sy’n creu swyddi , cynllun blynyddol gwerth £1.5 miliwn i gefnogi cynhyrchwyr ynni adnewyddadwy, a chronfa o £200,000 i hybu datblygiad Ardaloedd Gwella Busnes yng Nghymru.
9. Mae argymhellion eraill yn ymwneud â gweithio gyda phartneriaid, megis Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, i sicrhau bod awdurdodau lleol yn ymwybodol o’u pwerau i gynnig rhyddhad ardrethi’n ôl disgresiwn ac y gallant gynhyrchu canllaw ar y cyd ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio sy’n glir ac ar gael i fusnesau.
10. Ar ben yr argymhellion, cyhoeddwyd nifer o gamau gweithredu eraill. Gofynnwyd i’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen ystyried sut i annog datblygiadau newydd trwy ardrethi busnes yn dilyn cyngor gan Banel y Sector Adeiladu, gan edrych ar effeithiolrwydd cynlluniau a gyflwynwyd yn ddiweddar yng Ngogledd Iwerddon a’r Alban i roi defnydd i adeiladau gwaga p’un a fyddai hyn yn gweithio yng Nghymru ai peidio. Gofynnwyd i’r grŵp roi ei safbwyntiau ar benderfyniad Llywodraeth y DU i ohirio’r ymarfer ailbrisio yn Lloegr tan 2017.
11. Cytunodd yr Athro Brian Morgan a Juliet Luporini wneud gwaith pellach ar eu hargymhelliad i ystyried rhyddhad sydd ar gael i elusennau. Byddai hyn yn golygu cael safbwynt gwahanol grwpiau gan estyn yr ystyriaethau i fentrau cymdeithasol ac undebau credyd.